1. Rwyf yn poeni fod fy mhlentyn yn cael anawsterau, beth allaf ei wneud?
  2. Beth yw fy hawliau a'm cyfrifoldebau?
  3. Sut bydd yr ysgol yn darparu ar gyfer fy mhlentyn?

Rwyf yn poeni fod fy mhlentyn yn cael anawsterau, beth allaf ei wneud?

Os ydych yn meddwl bod eich plentyn yn cael anhawster nad yw wedi cael ei nodi, dylech siarad â'i athro dosbarth yn syth.

Byddwch yn gallu sgwrsio am eich pryderon a bydd hyn yn aml yn helpu i ddatrys pryderon a phroblemau yn gyflym.

Trwy gydweithio ag athrawon eich plentyn, bydd y cymorth yn fwy tebygol o lwyddo. Weithiau, bydd angen cymorth ychwanegol ar gyfer eich plentyn.

Ar y dechrau, bydd yr athro dosbarth yn troi at Gydlynydd ADY yr ysgol neu'r Pennaeth am gyngor.

Mae Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni Ceredigion yn cynnig gwybodaeth, cyngor diduedd a chymorth ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Ngheredigion.

Gallwn:

  • gefnogi gyda gwybodaeth am y Cod ADY a sut mae ysgolion Ceredigion yn cefnogi dysgwyr ag ADY;
  • gyfarfod a rhieni a gofalwyr a mynychu cyfarfodydd ysgol;
  • gefnogi ar adeiladu a chynnal perthynas da gyda gweithwyr proffesiynol

I gysylltu â'r tîm, ffoniwch 01545 570881 neu e-bostiwch pps@ceredigion.gov.uk 

Rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd drwy SNAP Cymru - elsuen plant Cymru gyfan sy'n gweithio gyda theuluoedd ar faterion sy'n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan SNAP: www.snapcymru.org

Yn ôl i'r brig

Beth yw fy hawliau a’m cyfrifoldebau?

  • dylech bob amser ofyn am gyngor yn ddi-oed
  • dylid ymgynghori â chi am yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar eich plentyn
  • mae gennych rôl hanfodol o ran cefnogi addysg eich plentyn
  • dylai eich barn cael ei hystyried
  • rhaid i'r ysgol roi gwybod i chi pan fyddant yn dechrau rhoi help ychwanegol new wahanol ar gyfer eich plentyn
  • dylid ymgynghori â chi am yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar eich plentyn
  • lle bo'n briodol, dylai dymuniadau eich plentyn gael eu clywed
  • mae gennych hawl i gael copi o CDU eich plentyn
  • os ydych chi am siarad â rhywun sy'n annibynnol ac yn gwybod am anghenion addysgol arbennig, gallwch gael help a chyngor gan y gwasanaeth partneriaeth rhieni lleol neu, oddi wrth gyrff cenedlaethol neu fudiadau gwirfoddol lleol

Yn ôl i'r brig

Sut bydd yr ysgol yn darparu ar gyfer fy mhlentyn?

Yng Ngheredigion, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar adnabod anghenion dysgu ychwanegol cyn gynted ag y bo modd fel y gall eich plentyn dderbyn y cymorth mwyaf effeithiol sydd ar gael.

Mae’r Ymateb Graddedig yn cydnabod bod plant yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd ac mae ganddynt wahanol fathau a lefelau o anghenion arbennig a bod yr athrawon i gyd yn athrawon anghenion arbennig.

Mae'r Ymateb Graddedig yn cynnwys 3 lefel o gefnogaeth neu ymyrraeth.

Yn gyntaf, bydd yr ysgol yn gwneud defnydd llawn o'r holl adnoddau sydd ar gael yn y dosbarth a’r ysgol i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael pob cyfle i gael eu dysgu yn y ffordd sydd orau iddynt.

Bydd yr ysgol yn monitro ac yn adolygu cynnydd eich plentyn yn ofalus fel tystiolaeth i ddangos yr hyn sydd wedi cael ei wneud.

Os bydd cynnydd eich plentyn yn parhau i achosi pryder, gall cymorth ychwanegol a / neu arbenigedd gael ei ddwyn i mewn fel rhan o'r cylch parhaus o gynllunio, gweithredu ac adolygu.

Efallai y bydd angen i'ch plentyn gael helpu drwy’r Ymateb Graddedig am gyfnod byr neu am flynyddoedd lawer.

Gall amrywiaeth ac arddull y cymorth hwn gael ei gynyddu neu ei leihau yn unol â chynnydd eich plentyn ag anghenion unigol.

Mae ystod o wasanaethau cymorth ar gael i holl ysgolion Ceredigion, fel y gallant nodi dysgwyr sy'n cael anawsterau gyda'u dysgu a rhoi cymorth ychwanegol iddynt.

Os nad yw eich plentyn yn yr ysgol eto, cyfeiriwch at ein hadran Addysg Feithrin i blant 3-4 oed.

Os bydd ysgol neu leoliad yn teimlo bod angen mwy o gymorth arnynt, gallant gysylltu â gwasanaeth ADY yr awdurdod lleol am gyngor a chymorth gan un o’r gwasanaethau:

Y Gwasanaeth Seicoleg Addysg

Athrawon Ymgynghorol

Tîm Cymorth Synhwyraidd

Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar (EYALNLO)

Cefnogaeth Ôl-16

Yn ôl i'r brig

Mae’r Cod ADY yn rhoi arweiniad i Awdurdodau Lleol ar sut i drefnu a chyflwyno’r ddarpariaeth orau bosibl ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae dogfen Egwyddorion a Disgwyliadau Ceredigion yn seiliedig ar y canllawiau hyn.

Mae'r awdurdod wedi ymrwymo i godi cyflawniad a chau'r bwlch ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY fel eu bod yn cyflawni'r safonau gorau posibl, lles a chyfleoedd bywyd hirdymor.

Mae’r awdurdod yn credu bod gwella deilliannau ar gyfer disgyblion a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig yn gyfrifoldeb ar bawb.

Mae'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, rhieni ac asiantaethau eraill i sicrhau bod holl blant Ceredigion, beth bynnag fo'u hangen, yn cael eu gwerthfawrogi, yn profi llwyddiant yn eu dysgu, yn cyflawni eu potensial a'u nodau personol ac yn gwneud y mwyaf o'u siawns o gael bywyd llawn ac ystyrlon.

Nod Ceredigion yw darparu:

  • addysg gynhwysol mor agos i'r cartref a'r gymuned leol â phosib
  • asesiad cynnar a chywir o anghenion
  • ystod eang, cytbwys a pherthnasol o gyfleoedd dysgu
  • ystod o ddarpariaeth prif ffrwd ac arbenigol
  • cymorth, cyngor a hyfforddiant o ansawdd uchel i ysgolion
  • gwybodaeth amserol, cywir a pherthnasol i rieni a gofalwyr
  • adnoddau a gwasanaethau sy'n briodol, yn effeithiol, yn deg, yn dryloyw, yn gyson, yn effeithlon ac yn atebol
  • mynediad i weithgareddau cymdeithasol a hamdden yn y gymuned

Polisi Anghenion Gofal Iechyd

Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru, 'Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd', yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i greu a chynnal polisïau anghenion gofal iechyd effeithiol.

Paratowyd y polisi anghenion gofal iechyd enghreifftiol hwn i ysgolion a lleoliadau Ceredigion ei fabwysiadu.

Crëwyd y polisi hwn trwy gydweithio â phenaethiaid, cydlynwyr AAA a lleoliadau addysg, rhieni a gofalwyr, cydweithwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gydymffurfio'n agos â'r cyngor a gynhwysir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru.

Gellir cael mynediad at ddogfen arweiniad Llywodraeth Cymru o'r cyfeiriad gwefan canlynol: www.learning.gov.wales

 Polisi Anghenion Gofal Iechyd

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae plant a phobl ifanc yn dysgu ar gyflymder gwahanol a gall fod ffactorau yn eu bywydau a all effeithio ar eu cyfradd dysgu hefyd.

Mae’n bosibl y bydd angen mwy o gymorth ar blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol na’r mwyafrif o blant a phobl ifanc o’r un oedran. Gyda rhai plant a phobl ifanc, mae’r anghenion dysgu ychwanegol hyn yn rhai tymor byr ond i eraill, bydd yr anghenion dysgu ychwanegol yn bresennol drwy gydol eu cyfnod mewn addysg a bydd angen mewnbwn yr ysgol, rhieni, y plentyn/person ifanc a’r awdurdod lleol (ac asiantaethau eraill lle bo'n briodol) i gynllunio, gweithredu ac adolygu unrhyw gymorth neu ddarpariaeth ychwanegol sydd eu hangen arnynt.

Dyma rai enghreifftiau o feysydd o anawsterau y gall plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol eu profi.

  • darllen, ysgrifennu, gwaith rhif
  • deall gwybodaeth
  • mynegi eu hunain neu ddeall yr hyn y mae eraill yn ei ddweud
  • gwneud ffrindiau neu ymwneud ag oedolion
  • ymddwyn yn briodol yn yr ysgol
  • trefnu eu hunain
  • anhawster clywed, gweld, neu symud o gwmpas a allai effeithio ar eu dysgu

Un o egwyddorion y Cod ADY yw addysg gynhwysol lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i gyfranogi’n llawn mewn addysg brif ffrwd, lle bynnag y bo’n ymarferol, ac mae dull lleoliad cyfan yn cael ei fabwysiadu i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (2018) yn dweud bod gan blentyn neu berson ifanc 3 i 16 oed Anghenion Dysgu Ychwanegol os yw ef neu hi:

  • yn cael anhawster sylweddol fwy wrth ddysgu na'r mwyafrif o rai eraill o'r un oedran neu
  • ag anabledd sy'n ei atal neu'n ei rwystro rhag defnyddio cyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant o'r math a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oedran

Mae gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol (0 i 3 oed) anhawster dysgu neu anabledd os yw’n cyrchu darpariaeth ddysgu ychwanegol (ar gyfer plant dan 3 oed mae hyn yn golygu darpariaeth addysgol o unrhyw fath).

Mae’r system ADY newydd yn rhoi’r dysgwr wrth galon popeth sy’n digwydd, ac mae’n rhaid i ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc a’u cefnogi. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ystyried barn, dymuniadau a theimladau plant/pobl ifanc a’u rhieni ar bob cam drwy roi llais iddynt yn y ffordd y caiff anghenion plant eu nodi, eu hasesu a’u cefnogi drwy gydol eu hamser mewn ysgolion a lleoliadau.

Darpariaeth Ddysgu Cyffredinol (Cynhwysol).

Disgwylir i holl ysgolion Ceredigion ddatblygu dulliau addysgu cynhwysol i gefnogi pob dysgwr gan gynnwys y rhai ag ADY. Gelwir hyn yn Ddarpariaeth Ddysgu Cyffredinol (Cynhwysol) ac mae ar gael i bob disgybl, gan ganolbwyntio ar:

  • Addysgu, dysgu da a gwahaniaethu wedi'i dargedu
  • Strategaethau addysgu wedi'u targedu i gefnogi gwahanol feysydd angen
  • Ymyriadau Safonol wedi'u Targedu (ymyriadau sydd ar gael yn gyffredinol i bob disgybl o'r un oedran sy'n helpu i nodi anghenion sy'n dod i'r amlwg).

Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol

Mae darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) ar gyfer plant 3 oed neu drosodd yn golygu darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy’n ychwanegol at, neu’n wahanol i’r hyn a wneir yn gyffredinol ar gyfer eraill o’r un oedran.

Gall Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDdY) fod ar sawl ffurf; gallai gynnwys unrhyw gymorth sy'n digwydd y tu mewn neu'r tu allan i'r ystafell ddosbarth prif ffrwd, lle mae'n ychwanegol at, neu'n wahanol i'r hyn a wneir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oedran. Gall darpariaeth ddysgu ychwanegol hefyd gael ei chyflwyno mewn lleoliadau y tu allan i'r ysgol neu'r coleg dan rai amgylchiadau a/neu gan weithwyr proffesiynol allanol.

Mae darpariaeth dysgu ychwanegol ar gyfer plentyn o dan 3 oed yn golygu darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

Cefnogaeth i Ddysgwyr ag ADY

Mae ymyrraeth amserol, a chymorth wedi’i gynllunio’n dda yn hanfodol i gyflawni’r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc ag ADY. Efallai y bydd hyn hefyd yn gofyn am gydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill.

Dylai athrawon dosbarth, gyda chefnogaeth yr uwch dîm arwain mewn ysgolion gan gynnwys y Cydlynydd ADY, wneud asesiadau rheolaidd o gynnydd ar gyfer pob disgybl. Dylai'r rhain geisio nodi disgyblion sy'n gwneud llai o gynnydd na'r disgwyl o ystyried eu hoedran a'u hamgylchiadau unigol.

Dylai staff yr ysgol siarad â chi a’ch plentyn am hyn, ac yna penderfynu gyda’ch gilydd a oes angen cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar eich plentyn. Os yw person ifanc yn 16 oed neu'n hŷn dylai'r ysgol eu cynnwys yn uniongyrchol.

Weithiau efallai mai chi fydd y cyntaf i fod yn ymwybodol bod gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol. Os ydych chi’n meddwl y gallai fod angen cymorth ADY ar eich plentyn dylech siarad ag athro/athrawes eich plentyn neu’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY).

 

Mae addysg yng Ngheredigion yn newid.

Gwyliwch y fideo hyn i ddarganfod sut mae addysg yn Ngheredigion yn newid

Mae Ceredigion yn un o'r awdurdodau lleol mwyaf cynhwysol yng Nghymru. Nid oes gennym unrhyw ysgolion arbennig, dim ond nifer fach o ganolfannau adnoddau arbenigol sydd ynghlwm ag ysgolion prif ffrwd. Mae hyn yn golygu bod mwyafrif ein dysgwyr yn cael eu haddysgu mewn ysgolion prif ffrwd. Mae'r fideo hon yn disgrifio buddion addysg gynhwysol o safbwynt rhieni plentyn yn ogystal â'r gweithwyr proffesiynol sydd ynghlwm.

Mwy o wybodaeth yn dod yn fuan…