Mae cwpl o Geredigion a werthodd ddillad, esgidiau a phersawr ffug ar leoedd marchnad leol ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cael dirwy gan Lys Ynadon Aberystwyth wedi ymchwiliad gan Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Sir Ceredigion.

Ymddangosodd Peter Hinchen, 54, a Sharon Hopkins, 38 oed o Rydlewis, gerbron Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Mawrth 30 Ebrill 2024, lle plediodd y ddau yn euog i bedwar trosedd o dan Ddeddf Nodau Masnach 1994.

Clywodd y fainc o Ynadon sut oedd swyddogion o wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd wedi gweld tracsiwts, esgidiau, oriawr, siacedi a phersawr ffug yn cael eu hysbysebu i'w gwerthu gan y cwpl ar leoedd marchnad ar-lein leol.

Yn dilyn gwarant chwilio yn eu cartref yn ystod mis Rhagfyr 2021, atafaelodd swyddogion 65 eitem o ddillad, 19 pâr o esgidiau, pedair oriawr a 13 potel persawr a gadarnhawyd yn ddiweddarach fel rhai ffug gan gynrychiolwyr nod masnach Nike, Adidas, The North Face, Ralph Lauren, POLO, Givenchy, Chelsea, Ben10, ac Emporio Armani.

Cafodd y cwpl eu cyhuddo o fod yn meddu ar y nwyddau ffug a’r bwriad o’u gwerthu. Pan gawson nhw eu cyfweld, fe wnaethant wadu hyn i ddechrau.

Dywedwyd wrth y Llys pe bai'r eitemau wedi bod yn ddilys, byddai eu gwerth manwerthu go iawn wedi bod yn £8,240. Clywodd yr Ynadon hefyd fod peth o'r dillad ar gyfer plant ac nad oeddent yn cwrdd â Safonau Diogelwch Prydain oherwydd y cordiau llinyn tynnu a allai achosi perygl tagu.

Rhybuddiodd y Cynghorydd Matthew Vaux, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd, i breswylwyr i osgoi gwerthwyr nwyddau ffug. Dywedodd: "Nid yw nwyddau ffug yn cwrdd â'r gofynion diogelwch llym sy'n ofynnol o nwyddau cyfreithlon; nid ydynt yn cael unrhyw brofion ansawdd na diogelwch, ac ni fydd defnyddwyr yn gwybod sut na ble maen nhw'n cael eu gwneud. Nid yn unig y mae nwyddau ffug yn peri risg i brynwyr, maent hefyd yn tanseilio masnach gyfreithlon yn y sir ac ymhellach i ffwrdd.”

Roedd yr amddiffyniad yn dadlau bod Hinchen a Hopkins wedi cael y nwyddau gan ddyn anhysbys yn Llanelli i'w gwerthu, ond dim ond trwy dderbyn dillad am ddim i'w plant yr oedden nhw’n ceisio gwneud.

Rhoddodd Ynadon Aberystwyth ddirwy o £434 ar bob un o'r diffynyddion a rhoddwyd gorchymyn fforffedu a difa ar y nwyddau a atafaelwyd.

08/05/2024