Mae'n ofyniad statudol o dan Deddf Argyfyngau Sifil 2004 i ystyried tebygolrwydd ac effaith amrediad o beryglon a all ddigwydd o fewn ardal Heddlu Dyfed Powys.

Mae argyfyngau yn amlwg yn bethau yr ydym i gyd yn gobeithio na fyddant byth yn digwydd, ond pe bai argyfwng yn digwydd yng Ngheredigion, rydym am fod more barod ag y gallwn fod.

I'n helpu i benderfynu lle ddylem ganolbwyntio ein hymdrechion o ran cynllunio mewn argyfwyng, mae'n bwysig ein bod yn parhau i asesu'r risgiau posibl i'n Sir.

Mae pwysigywydd yr asesiad risg yn cael ei bwysleisio yn Neddf Argyfyngau Sifil 2004 (Deddf 2004).

Un o'r gofynion statudol o dan Ddeddf 2004 yw ystyried pa more debygol o ddigwydd fyddai ystod o beryglon yn ardal Heddlu Dyfed Powys, ynghyd â'u heffaith.

Mae'r gwaith hwn yn broses barhaus. Bydd yr asesiadau risk ar y gofrestr ond yn ymwneud â digwyddiadau nad ydynt yn rhai maleisus (h.y. peryglon) yn hytrach na bygythiadau (h.y. digwyddiadau terfysgaeth).

Mae'r senarios peryglus nodweddiadol sy'n cael eu hystyried yn cynnwys, er enghraifft:

  • Digwyddiadau trafnidiaeth
  • Tywydd garw iawn
  • Llifogydd
  • Damweiniau diwydiannol a llygry'r amgylchedd
  • Iechyd pobl
  • Iechyd anifeiliad
  • Methiant technegol diwydiannol.

Nid yw asesiad risg yn broses statig, mae'n cael ei hadolygu'n barhaus. Nid yw cynnwys peryglon neu senarios yn golygu bod y Fforwm Gwydnwch Lleol yn credu y bydd risg yn cael ei gwireddu, neu pe bai'n gwneud, y byddai ar y raddfa honno. Yn hytrach, tybiaethau rhesymol ynghylch y sefyllfa waethaf yw'r senarios risg, tybiathau y mae'r asesiad risg yn seiliedig arnynt.

Er mwyn gweld y Gofrestr Risg Gymunedol, cliciwch ar y ddolen isod: