Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.
Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.
Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.
Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.
Diolch.
Dyddiad | Ardal wedi’i effeithio | Math o wastraff sydd wedi’i effeithio | Rheswm | Cyngor |
---|---|---|---|---|
17eg Mai 2024 | Aberteifi (Park Avenue, Cnwc y Dintir, Maes y Coed, Gwbert Road, Gotrel Estate ) llwybr 107 |
Bagiau Du | Rhedeg yn hwyr | Rhedeg yn hwyr - Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Sadwrn 18fed Mai 2024 |
16eg Mai 2024 | Glynarthen, Beulah, Betws Ifan llwybr 123 |
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd | Problemau gyda staffio | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Sadwrn 18fed Mai 2024 |
14eg Mai 2024 | Betws Bledrws, Llwyn y Groes, Pont Creuddyn, Pentre Bach, Cribyn, Mydroilyn Dihewyd, Felinfach, Talsarn, Silian, Maestir, Llanwnen, Llangybi, Gors Goch, Abermeurig (Lonydd Cul iawn) llwybr 173 |
Bagiau Ailgylchu Clir, Gwastraff Bwyd, Gwydr a Bagiau Du | Problemau gyda'r fflyd a staffio | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Sadwrn 18fed Mai 2024 |
Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf