Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 31/12/2023

 

Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar 19/03/2024

Adroddiad- Cynllun Cydraddoldeb Strategol Ceredigion 2024-28.pdf

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol Ceredigion 2024-28 

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol wedi’i gyhoeddi ar ein wefan

Cynllun Strategol Cydraddoldeb & Amcanion - Cyngor Sir Ceredigion

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Ceredigion 2024-28 (drafft)

Diolch am eich holl ymatebion. Rydym bellach yn casglu manylion o'ch ymatebion a chwblhau'r cynllun.

Bydd eich ymatebion yn cyfrannu at ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol terfynol ar gyfer 2024-28 a fydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet Ceredigion ar 19 Mawrth 2024.

Byddwn yn dechrau gweithio ar y cynllun ar 1 Ebrill 2024.


Dyma ein pedwerydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol (drafft). Mae'n disgrifio sut y byddwn yn parhau i gyflawni ein hymrwymiad i gydraddoldeb a sut y byddwn yn cyflawni ein rhwymedigaethau a amcanir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Yn ystod haf 2023 fe wnaethom gasglu barn pobl ar gydraddoldeb yn ein hardal leol. Rydym hefyd wedi defnyddio dystiolaeth o ymgyrchoedd ymgysylltu blaenorol, er enghraifft, ein Hasesiad o Lesiant Lleol (Mawrth 2022), ein Hasesiad Digonolrwydd Gofal Plant (Mehefin 2022) a Chynllun Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2022). Mae mwy o wybodaeth yn ein Hadroddiad Ymgysylltu 2023.

Rydym wedi adolygu ein Hamcanion Cydraddoldeb yn sgil ein hymgysylltiad a'n hymchwil. Ein casgliad yw bod ein hamcanion yn dal yn addas i'r diben ond, oherwydd natur newidiol cymdeithas a'r gwaith yr ydym wedi'i wneud hyd yma, mae angen i ni ddiwygio'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion.

Gellir darllen y cynllun llawn yma

Sut i gymryd rhan

Cwblhewch yr arolwg yma
Lawrlwythwch gopi papur
Lawrlwythwch gopi print bras
Lawrlwythwch gopi hawdd i ddarllen

Gallwch hefyd gofyn am gopi papur o’ch Llyfrgell neu’ch Ganolfan Hamdden leol neu trwy alw 01545 570881 neu drwy e-bost i clic@ceredigion.gov.uk

Dychwelwch copïau bapur i’ch lyfrgell lleol neu i Tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3UE

Bydd eich ymateb yn cyfrannu at ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol terfynol 2024-28 a fydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet Ceredigion ar 27 Chwefror 2024.

Byddwn yn dechrau gweithio ar y cynllun ar 1 Ebrill 2024.