Mae’r Gwasanaethau Parcio yn casglu ac yn prosesu data personol amdanoch chi er mwyn darparu Gwasanaethau Parcio a Gwasanaethau Rheoli Parcio ac er mwyn cyflawni eu dyletswyddau statudol. Gweler y wybodaeth isod ynghylch pam fod y gwasanaeth angen eich gwybodaeth.

Bydd yr wybodaeth a gasglwn ni amdanoch chi yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:

  • Monitro a Gorfodi Tramgwyddau Parcio
  • Gweinyddu Tocynnau Tymor, Cardiau Parcio ar gyfer Meysydd Parcio Preifat a Hawlildiadau
  • Atal neu ganfod trosedd

 

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw bod prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol, a lle bod angen er mwyn cydymffurfio â’r goblygiadau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Rheoli Traffig 2004
  • Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013
  • Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2013

 

 

Pan brosesir data categori arbennig, y sail gyfreithiol fydd Erthygl 9 (2) g) GDPR y DU – rhesymau o fudd sylweddol i’r cyhoedd (gyda sail yn y gyfraith); deddfwriaeth fel yr uchod. Yr amod prosesu o ran budd sylweddol i’r cyhoedd fydd 6 (dibenion statudol a dibenion y llywodraeth).

Os na fyddwch chi’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom ni pan rydym ni’n gofyn amdani, gallai hyn arwain at sefyllfa lle na fyddwn yn gallu prosesu cais am Gerdyn Parcio ar gyfer Maes Parcio Preifat neu Docyn Tymor.

Ni fyddai’r Ganolfan Gorfodi Traffig yn gallu ystyried datganiadau tyst sy’n ymwneud â gwarantau adennill a gyhoeddir yn eich erbyn.

Ni fyddai gwasanaeth dyfarnu parcio annibynnol Cymru a Lloegr yn gallu gwneud penderfyniadau am apeliadau mewn perthynas â chyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb i chi / eich cerbyd.

Gallwn gasglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

 

  • Enw
  • Cyfeiriadau blaenorol a phresennol
  • Dyddiad geni
  • Rhif(au) ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc / talu
  • Manylion y cerbyd, gan gynnwys rhif cofrestru a math a model y cerbyd
  • Manylion contract llogi / prydlesu car
  • Lluniau o’ch cerbyd
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol
  • Gwybodaeth am Fathodyn Glas
  • Lluniau o gamera CCTV sy’n cael ei wisgo ar y corff
  • Rydym hefyd yn creu cyfeirnod unigryw ar gyfer Hysbysiadau Tâl Cosb a roddir fel rhan o’r gwaith Gorfodi Parcio Sifil.

I ddarparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn Uniongyrchol oddi wrthoch chi ond gallwn hefyd dderbyn gwybodaeth o’r ffynonellau canlynol:

  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
  • Adrannau Refeniw a Budd-daliadau (yng Nghyngor Sir Ceredigion ac mewn Awdurdodau Lleol eraill)
  • Adrannau Cofrestru Etholiadol (yng Nghyngor Sir Ceredigion ac mewn Awdurdodau Lleol eraill)
  • Adain Ystadau Cyngor Sir Ceredigion
  • Adrannau Bathodyn Glas (yng Nghyngor Sir Ceredigion ac mewn Awdurdodau Lleol eraill)
  • Heddlu Dyfed-Powys ac Awdurdodau Heddlu eraill
  • Cyngor ar Bopeth a sefydliadau eraill sy’n rhoi cymorth dinesig
  • Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru
  • Asiantau Gorfodi (Proserve Wales)
  • Tribiwnlys Cosbau Traffig
  • Canolfan Gorfodi Traffig
  • Cwmnïau Llogi Ceir
  • Motability
  • European Parking Collection

 

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

 

  • Enw
  • Cyfeiriadau blaenorol a phresennol
  • Dyddiad geni
  • Rhif(au) ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc / talu
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol
  • Gwybodaeth am Fathodyn Glas
  • Manylion contract llogi / prydlesu car

 

Gallai eich gwybodaeth gael ei throsglwyddo i wlad dramor gan gontractwr preifat i aelod-wladwriaethau perthnasol yr Undeb Ewropeaidd. Rydym yn gwneud hyn er mwyn gorfodi tramgwyddau parcio sy’n ymwneud â cherbydau sydd wedi’u cofrestru mewn gwlad tramor.

 

Euro Parking Collection PLC (EPC)

Hysbysiad Cyhoeddus - https://www.epcplc.com/privacy_notice

 

Mae contract ar waith rhwng Cyngor Sir Ceredigion a’r cyflenwr er mwyn rhoi mesurau ar waith i ddiogelu eich data.

Efallai y byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth gyda’r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

 


Mewnol:

  • Refeniw a Budd-daliadau
  • Cofrestru Etholiadol
  • Tîm Bathodyn Glas
  • Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor
  • Gwasanaethau Ystadau’r Cyngor

 

Allanol:

 

  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
  • Cyngor Sir Ddinbych (ar gyfer gweinyddu Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru)
  • Adrannau Treth y Cyngor mewn Awdurdodau Lleol eraill
  • Adrannau Cofrestru Etholiadol Awdurdodau Lleol eraill
  • Adrannau Bathodyn Glas Awdurdodau Lleol eraill
  • Heddlu Dyfed-Powys ac Awdurdodau Heddlu eraill
  • Cyngor ar Bopeth
  • Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru
  • Asiantau Gorfodi
  • Tribiwnlys Cosbau Traffig
  • Canolfan Gorfodi Traffig
  • Cwmnïau Llogi Ceir
  • Motability
  • Euro Parking Collection PLC

 

 

Mae yna sefyllfaoedd penodol eraill yn ogystal lle gall fod angen i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:

  • Pan fydd hi’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith;
  • Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd;
    • Pan fydd y datgelu o fudd hanfodol i’r person dan sylw.