Cyflwyniad

Mae sawl ffordd y gall rhywun eich cafflo, ond tri math penodol yw'r rhai mwyaf cyffredin. Y rhain yw:

  • cafflo ar drothwy'r drws,
  • cafflo drwy e-bost, dros y ffôn a thrwy'r post, a
  • chafflo ar y rhyngrwyd, megis gwefannau sy'n gwerthu tocynnau ffug.

Cafflo drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy'r post

Bob blwyddyn bydd oddeutu tair miliwn o bobl yn dioddef drwy gafflo torfol fel loterïau ffug, cystadlaethau raffl a swipiau camarweiniol, seicigion ffug, cynlluniau cyfoethogi cyflym a dulliau iachâd gwyrthiol. Daw llawer o'r rhain drwy'r post, yn ogystal â thrwy e-bost a thros y ffôn, ac maent yn dueddol o dargedu'r henoed a phobl agored i niwed. Gallwch gyfyngu ar alwadau ffôn digymell drwy gofrestru â'r gwasanaeth dewis galwadau ffôn ar 02072 913320 neu ewch i'r wefan www.mpsonline.org.uk

Mae gwaith ymchwil y Swyddfa Masnachu Teg yn awgrymu bod llai na 5% o ddioddefwyr yn rhoi gwybod i'r awdurdodau ar ôl cael eu cafflo. Os ydych chi wedi cael eich cafflo, neu os dymunwch gael mwy o gyngor, galwch Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 i siarad Cymraeg neu 0808 223 1133 i siarad Saesneg. Ewch i wefan www.thinkjessica.com i ddarllen hanes un dioddefwr.

Cafflo ar drothwy'r drws

Byddwn yn derbyn adroddiadau ynghylch cafflo ar drothwy'r drws bob blwyddyn. Cadwch lygad am bobl yn gwneud hyn yn eich ardal chi. Os ydych chi wedi cael eich cafflo ar drothwy'r drws, neu os ydych chi'n adnabod dioddefwr arall, neu os oes gennych wybodaeth benodol am fasnachwyr ffug a tharmacwyr gwael ac ati, galwch Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 i siarad Cymraeg neu 0808 223 1133 i siarad Saesneg i roi gwybod i ni, neu ceisiwch gyngor ar y we o wefan www.adviceguide.org.uk.

Ewch at ein Adran Galw Diwahoddiad/Troseddau ar Garreg y Drws am fanylion pellach.

Gwefannau ffug

Mae mwy a mwy o wefannau sy'n gwerthu tocynnau ffug wedi ymddangos ar y we yn ddiweddar. Hawdd iawn yw cael eich twyllo gan ymddangosiad proffesiynol y gwefannau hyn, yn enwedig felly pan rydych yn daer am gael tocyn i ddigwyddiad arbennig.

Cofiwch, os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg mai felly y mae hi!

Action Fraud - Adroddwch twyll a throseddau ar y rhyngrwyd

Mae Action Fraud yn ganolfan cenedlaethol newydd sy'n cael ei rhedeg gan yr Awdurdod Twyll Genedlaethol - asiantaeth y llywodraeth sy'n helpu i gydlynu y frwydr yn erbyn twyll yn y DU, lle y gallwch rhoi gwybod am unryw dwyll. Mae'n darparu pwynt cyswllt canolog ar gyfer gwybodaeth am sgamiau ayyb. Mae llawer o achosion o dwyll yn cael eu trin yn rhyngwladol oherwydd mae'r rhan fwyaf yn cael eu lleoli y tu allan i'r DU, ac mae Action Fraud a'i rhwydwaith o bartneriaid yn gweithio gyda'u gilydd.

Stopio Siarcod Benthyg Arian Cymru

Mae benthyca arian anghyfreithlon yn drosedd, ac mae siarcod benthyg arian yn aml yn targedu pobl sy’n agored i niwed. Os ydych chi neu rywun rydych yn ei nabod yn gysylltiedig â benthyca arian anghyfreithlon, cyfaddef popeth yw’r peth iawn i wneud.